Astudio Drwy’r Gymraeg 

Mae gan Brifysgol Fetropolitan Caerdydd (UWIC) draddodiad hir o gynnig addysg drwy gyfrwng y Gymraeg mewn meysydd penodol. Mae’r Brifysgol yn cydweithio’n agos iawn gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddatblygu addysg flaengar mewn meysydd newydd.

Ysgoloriaethau

Drwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol mae hefyd yn bosib ennill hyd at £1000 y flwyddyn drwy astudio yn y Gymraeg ym Met Caerdydd. Am fwy o wybodaeth am yr Ysgoloriaethau sydd ar gael ewch i:http://www.colegcymraeg.ac.uk/myfyrwyr/cy/cyllid/

Ysgol Addysg Caerdydd
Mae mwy na 2,000 o fyfyrwyr gan Ysgol Addysg Caerdydd ac maent yn cael eu cefnogi gan fwy na 100 o staff academaidd a gweinyddol. Mae’r Ysgol wedi’i rhannu yn dair Adran, Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol i Athrawon (HACA), y Dyniaethau, a Datblygiad Proffesiynol. Gyda’i gilydd, mae’r tair Adran hon yn cynnig ystod eang o raglenni i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig.

Mae’n bosib astudio drwy’r Gymraeg ar y cyrsiau isod:

TAR Cynradd* (1 flwyddyn)
 
* Y pynciau uwchradd a gynigir: Gwyddoniaeth (arbenigo mewn Bioleg, Cemeg neu Ffiseg), Mathemateg, Addysg Gorfforol, Celf a Dylunio, Saesneg gyda Drama, Hanes, Ieithoedd Tramor Modern (arbenigo mewn Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg a/neu Eidaleg) Cerddoriaeth, Cymraeg, Dylunio a Thechnoleg, TGCh, Drama (nid yw pob un o’r meysydd pwnc ar gael yn Gymraeg).

BA Uwchradd Cymraeg (3 blynedd)
BA (Anrh) Astudiaethau Addysgol a ...

BA (Anrh) Astudiaethau Addysgol ac Astudiaethau Plentyndod Cynnar*
BA (Anrh) Astudiaethau Addysgol a Saesneg*
BA (Anrh) Astudiaethau Addysgol a'r Dyniaethau*
BA (Anrh) Astudiaethau Addysgol a Seicoleg*
BA (Anrh) Astudiaethau Addysgol a Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol*
BA (Anrh) Astudiaethau Addysgol a Chymraeg**
*O 2012/12 ymlaen bydd elfennau o’r cyrsiau hyn ar gael yn y Gymraeg
*O 2012/12 ymlaen bydd elfennau o’r cyrsiau hyn ar gael yn y Gymraeg
**Mae 50% o’r rhaglen hyn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg

Ysgol Chwaraeon Caerdydd
Drwy gydol y 60 mlynedd of fodolaeth Ysgol Chwaraeon Caerdydd, mae’r Ysgol wedi creu enw da yn rhyngwladol ar gyfer safon ei addysg, gwaith proffesiynol, ei hymchwil a hefyd ei digwyddiadau allgyrsiol.

Mae Ysgol Chwaraeon Caerdydd yn cynnig rhai o’r graddau israddedig ac ôl-raddedig mwyaf cyfoes a poblogaidd yn y DU. Mae’r Ysgol hefyd yn cynnig nifer o gyrsiau galwedigaethol, gan gynnwys tylino chwaraeon a chymwysterau hyfforddi.

Mae’n bosib gwneud elfennau o bob un o gyrsiau israddedig yr Ysgol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n bosib cynnig am Ysgoloriaeth o £500 y flwyddyn drwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am astudio 40 credit y flwyddyn (1/3 o’r rhaglen) drwy gyfrwng y Gymraeg ar y cyrsiau canlynol:

Hyfforddi Chwaraeon BSc (Anrh)
Datblygu Chwaraeon BSc (Anrh)
Chwaraeon a Gwyddor Chwaraeon BSc (Anrh)
Rheoli Chwaraeon BSc (Anrh)
Chwaraeon ac Addysg Gorfforol BSc (Anrh)

Am rest llawn o gyrsiau yr Ysgol Chwaraeon cliciwch yma.

Am fwy o wybodaeth ewch i: http://www.colegcymraeg.ac.uk/myfyrwyr/cy/cyllid/

Mae’n bosib cynnig am Ysgoloriaeth o £1000 y flwyddyn drwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am astudio 80 credit y flwyddyn (2/3 o’r rhaglen) drwy gyfrwng y Gymraeg ar y rhaglen BSc Chwaraeon ac Addysg Gorfforol. Am fwy o wybodaeth ewch i:http://www.colegcymraeg.ac.uk/myfyrwyr/cy/cyllid/

Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Mae’r Ysgol, sydd wedi’i lleoli ar Gampws Llandaf, wedi’i ffurfio o 9 Canolfan ac mae ganddi bortffolio eang o gyrsiau ym meysydd y Gwyddorau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan gynnwys nifer o raglenni sy’n unigryw yng Nghymru.

Mae’r Ysgol yn ymgymryd ag ymchwil gweithredol ac mae ganddi ystod eang o fentrau ar waith a rhaglenni sydd wedi’u hachredu’n broffesiynol sy’n cynnig cyfleoedd gyrfaol gwych.

Mae’n bosib cynnig am Ysgoloriaeth o £500 y flwyddyn drwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am astudio 40 credit y flwyddyn (1/3 o’r rhaglen) drwy gyfrwng y Gymraeg ar y BSc Gwyddorau Biofeddygol. Am fwy o wybodaeth ewch i:http://www.colegcymraeg.ac.uk/myfyrwyr/cy/cyllid/

Ysgol Reoli Caerdydd
Wedi'i lleoli mewn adeilad hynod newydd yn Llandaf, mae’r Ysgol yn cynnig rhychwant eang o raglenni sydd wedi’u dylunio yn bwrpasol er mwyn sicrhau eich bod chi’n datblygu i fod yr hyn mae pob cyflogwr yn edrych amdano - rhywun sy’n gallu meddwl yn annibynnol a gyda’r gallu a’r wybodaeth i gyflawni'r hyn sydd angen.

Mae’n bosib cynnig am Ysgoloriaeth o £500 y flwyddyn drwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am astudio 40 credit y flwyddyn (1/3 o’r rhaglen) drwy gyfrwng y Gymraeg ar y BA (Anrh) BA Astudiaethau Busnes a Rheoli. Am fwy o wybodaeth ewch i:http://www.colegcymraeg.ac.uk/myfyrwyr/cy/cyllid/