Sut i Wneud Cais
Mae nifer o weithdrefnau cais gwahanol am leoedd yn UWIC. Mae'n bwysig eich bod yn defnyddio'r weithdrefn gywir i sicrhau bod eich cais yn ein cyrraedd yn ddiogel.
I ganfod sut i wneud cais am gwrs, darllenwch y manylion a roddir yn nisgrifiad y cwrs rydych am ei astudio - bydd hyn yn dweud wrthoch pa sefydliad a fydd yn delio â'ch cais. Mae'r canllawiau ar y dudalen hon yn dweud wrthoch sut i gael rhagor o fanylion am geisiadau.
Myfyrwyr Israddedig
Os ydych am wneud cais am gwrs israddedig llawn amser gwnewch hynny drwy'r Gwasanaeth Derbyn Prifysgolion a Cholegau yn http://www.ucas.ac.uk neu cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
Astudiaethau atodol UWIC
Os ydych yn fyfyriwr yn UWIC ar hyn o bryd (yn dilyn Rhaglen Sylfaen neu HNC/D) ac am ddilyn rhaglen israddedig, gallwch wneud cais yn uniongyrchol i UWIC (ar wahân i'r rheini sy'n gwneud cais am BSc Maetheg Ddynol a Deieteg, BSc Podiatreg a BSc Therapi Lleferydd ac Iaith - y dylid gwneud cais am y cyrsiau hynny drwy http://www.ucas.com/). Lawrlwythwch Ffurflen Gais UWIC (mae angen Adobe Reader* ar gyfer ffeiliau PDF).
Astudiaethau atodol allanol
Os ydych yn fyfyriwr mewn Sefydliad arall ac yn gwneud cais am le ar raglen israddedig yn UWIC, dylid gwneud cais drwy http://www.ucas.com/.
Trosglwyddiadau Mewnol
Os ydych yn fyfyriwr yn UWIC ar hyn o bryd sy'n trosglwyddo i raglen arall yn fewnol, neu hyd yn oed yn ail-sefyll/ailgychwyn y rhaglen, gallwch wneud cais yn uniongyrchol i UWIC. Lawrlwythwch Ffurflen Gais UWIC (mae angen Adobe Reader* ar gyfer ffeiliau PDF).
Trosglwyddiadau Allanol
Os ydych yn trosglwyddo i UWIC o Sefydliad arall i astudio rhaglen israddedig, dylid gwneud cais drwy http://www.ucas.com/; Gellid gwneud ceisiadau am raglenni rhan amser / ôl raddedig (ac eithrio rhaglenni TAR Cynradd ac Uwchradd) yn uniongyrchol i UWIC.Lawrlwythwch Ffurflen Gais UWIC (mae angen Adobe Reader* ar gyfer ffeiliau PDF)
Gohiriadau
Os cawsoch gynnig wedi'i ohirio gennym, byddwn yn cysylltu â chi ym mis Ionawr/Chwefror i ofyn a ydych yn bwriadu derbyn eich lle o hyd. Caiff pecyn ymuno ei anfon atoch ym mis Gorffennaf yn eich cyfeirio i'r wefan ar gyfer myfyrwyr newydd a fydd yn rhoi gwybodaeth am sefydlu a chofrestru i chi.
Gadael
Os gwnaethoch gais am le ar raglen israddedig llawn amser gyda ni, a chael eich derbyn, ond gwnaethoch benderfynu gadael, bydd angen i chi wneud cais arall drwy http://www.ucas.ac.uk/.
Myfyrwyr Rhan Amser
Dylid gwneud ceisiadau rhan amser yn uniongyrchol i'r adran dderbyniadau yn UWIC. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
Myfyrwyr Ôl-raddedig
Dylid gwneud ceisiadau ôl-raddedig yn uniongyrchol i'r uned dderbyniadau yn UWIC. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
Myfyrwyr Proffesiynol
Dylid gwneud ceisiadau proffesiynol yn uniongyrchol i'r uned dderbyniadau yn UWIC. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
Cwrs Hyfforddiant Athrawon TAR
Os ydych am wneud cais am gwrs hyfforddiant athrawon TAR gwnewch hynny drwy'r Gofrestra Hyfforddi Athrawon Graddedig yn http://www.gttr.ac.uk/
Myfyrwyr Ymchwil
Dylid gwneud ceisiadau ymchwil yn uniongyrchol i uned dderbyniadau UWIC. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
Myfyrwyr Rhyngwladol
Os ydych yn Fyfyriwr Rhyngwladol (y tu allan i'r DU/UE) cliciwch yma.