Ffeithiau a Ffigyrau UWIC
- Mae UWIC yn cynnig dros 100 o gyrsiau i israddedigion
- Mae gan UWIC dros 10,000 o fyfyrwyr o dros 130 o wledydd ledled y byd
- Mae gan UWIC bedwar campws ar draws Caerdydd
- Mae UWIC wedi llwyddo i gadw Nod Siarter am Ragoriaeth y Llywodraeth am gyfanswm o 15 mlynedd
- Mae UWIC yn un o aelod-golegau Prifysgol Cymru
- Mae 95% o fyfyrwyr UWIC wedi cael swyddi neu'n dilyn astudiaethau pellach o fewn chwe mis i gwblhau eu hastudiaethau
- Caiff cyrsiau gradd UWIC eu dilysu gan Brifysgol Cymru - gan roi cymeradwyaeth annibynnol iddynt
- Mae UWIC yn un o ganolfannau mwyaf blaenllaw'r DU ar gyfer chwaraeon myfyrwyr
- Mae gan UWIC lawer o grwpiau Ymchwil a Menter llwyddiannus
- Mae UWIC yn aelod o gonsortiwm FE2HE – sy'n rhoi fframwaith ar gyfer astudiaethau addysg uwch mewn colegau addysg bellach
- Mae UWIC yn cynnig y gwasanaeth bysiau pwrpasol mwyaf i brifysgol yng Nghymru – UWIC Rider
- Mae UWIC yn cynnal ysgol haf lwyddiannus iawn
- Mae UWIC yn cynnig llawer o fwrsarïau ac ysgoloriaethau
- Mae UWIC yn buddsoddi £50 miliwn mewn ystadau dros y 10 mlynedd nesaf
- Mae UWIC wedi ymrwymo i gyflawni achrediad ISO 14001, sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd camau gweithredol i sicrhau amgylchedd cynaliadwy
- Mae cyfran y myfyrwyr anabl sy'n cael cymorth yn UWIC ddwywaith yn fwy na chyfartaledd prifysgolion y DU. (wyddech chi)
- Mae rhaglenni rhan-amser UWIC yn hyblyg ac yn fyr - sy'n ddelfrydol i bobl na all astudio'n llawn amser.
- Mae Caerdydd yn ddinas fach ac mae pob un o gampysau UWIC yn agos i ganol y ddinas.
- Mae gan UWIC dros 100 o raglenni rhan-amser ac ôl-raddedig sy'n cwmpasu dros 50 o bynciau.