Cyfleusterau ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd  

Mae Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn cynnig cyfleusterau o'r safon uchaf i'w fyfyrwyr a'i staff. Ym mhob campws rydym yn cynnig llyfrgelloedd a chanolfannau dysgu, stiwdios argraffu a gwasanaethau cymorth o'r radd flaenaf. Ein nod yw darparu amgylchedd dysgu diogel a chefnogol i fyfyrwyr.


Caiff myfyrwyr y flwyddyn gyntaf lety yn neuaddau preswyl neu neuaddau partner ledled Caerdydd, gan sicrhau bod y broses o drosglwyddo rhwng byw gartref a chyrraedd y brifysgol mor ddidrafferth â phosibl. Gall y tîm llety hefyd ddarparu llety preifat neu lety a rennir yn ôl y gofyn.


Rydym hefyd yn cynnal y gwasanaeth bysiau mwyaf yn arbennig i fyfyrwyr yng Nghymru; mae'r UWIC Rider yn teithio rhwng y pedwar campws a chanol y ddinas gan sicrhau bod y drafnidiaeth angenrheidiol ar gael i'w cludo i ble bynnag maent am fynd.


Mae Llandaf a Chyncoed yn darparu cyfleusterau chwaraeon rhagorol i'r rhai sydd am gadw'n heini ac mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnig cymdeithasau chwaraeon; ac os nad ydynt yn cynnig cymdeithas y mae gennych ddiddordeb ynddi cewch help i drefnu un newydd.


Rydym yn ymdrechu i ddarparu amgylchedd dysgu diogel lle gall myfyrwyr ffynnu a dysgu a chael profiad prifysgol boddhaus.