Cardiff School of Sport 
Ar hyd y 60 mlynedd oddi ar ei sefydlu, datblygodd Ysgol Chwaraeon Caerdydd enw da yn rhyngwladol am safon ei gwaith academaidd, proffesiynol, allgyrsiol a’i gwaith ymchwil. Mae Ysgol Chwaraeon Caerdydd yn cynnig rhai o’r cyrsiau gradd israddedig ac ôl-raddedig chwaraeon-gysylltiedig mwyaf poblogaidd yn y DU. Cynigir nifer o gyrsiau galwedigaethol gan gynnwys tylino chwaraeon a dyfarniadau hyfforddi hefyd.