Gweinidogion Cymru yn cynnal Seminar y Gymdeithas Fawr gyda Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd
05.11.2012 09:00
O gwmnïau cenedlaethol mawr fel John Lewis, i fentrau cymunedol bach fel Banc Bwyd Caerdydd, mae mentrau cymdeithasol o bob lliw a llun ar gael ond mae gan bob un ohonynt ran bwysig i’w chwarae yng Nghymdeithas Fawr Cymru.
Heddiw [5 Tachwedd] bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, a’r Is-ysgrifennydd Gwladol, y Farwnes Randerson, yn cynnal yr ail Seminar Cymdeithas Fawr Cymru ar y cyd â Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd. Yn y seminar bydd cyfle iddynt gwrdd â grwpiau cymunedol, mudiadau lleol a busnesau i drafod syniadau a dulliau gweithredu newydd a allai hybu a chefnogi twf partneriaethau a mentrau cymdeithasol yn eu hardaloedd.
Bydd y rheini a fydd yn bresennol yn cael clywed gan yr Athro Brian Morgan, Athro Mentergarwch a Chyfarwyddwr y Ganolfan Arweinyddiaeth Greadigol a Menter ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, Jon Penfold o Social Investment a’r Big Society Capital, Ian Courtney o’r Banc Elusennau ac Adele Blakeborough o’r Social Business Trust.
 |
| Yr Athro Brian Morgan |
Bydd pob un yn rhoi ei safbwyntiau ei hun ynghylch sut mae creu cenhedlaeth newydd o entrepreneuriaid cymdeithasol ac yn hwyluso trafodaethau o amgylch bwrdd ynghylch y ffordd orau o ddatblygu a gwella arweinyddiaeth a rheolaeth mewn mentrau cymdeithasol.
Dywedodd David Jones , Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
“Mae’r Gymdeithas Fawr yn ymwneud â newid diwylliannol – o weithredu gan y llywodraeth i weithredu lleol.
“Ers ei lansio rydym wedi gweld ystod eang o ddigwyddiadau amrywiol a diddorol, fel hwn heddiw, ac mae’r cyfan yn rhannu’r un diben – dod â phobl ynghyd a’u grymuso i fynd ati eu hunain i wneud gwahaniaeth go iawn.
“Roeddwn wedi cynnal y Seminar Cymdeithas Fawr gyntaf yng Nghasnewydd fis Medi diwethaf gyda’r Gweinidog dros Gymdeithas Sifil, Nick Hurd. Ers hynny rwyf wedi achub ar bob cyfle i weld Cymdeithas Fawr Cymru ar waith ac rwyf wedi cael fy nharo gan amrywiaeth a hyd a lled y prosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth mewn cymunedau ar draws y wlad.
“Bydd y seminar hwn heddiw yn canolbwyntio ar un o’r sialensiau mwyaf sy’n ein hwynebu – sicrhau adferiad economaidd sy’n cael ei gefnogi gan fuddsoddiad cymdeithasol cynaliadwy ac sy’n cael ei ddarparu gan ac ar gyfer pobl Cymru.
“Fy ngweledigaeth i yw cymuned sy’n gweithio’n ddi-dor ar draws ei hun, gyda sectorau gwirfoddol a menter gymdeithasol law yn llaw â’r sectorau cyhoeddus a phreifat, unigolion a theuluoedd yn teimlo eu bod wedi’u grymuso i chwarae rhan lawn yn eu cymunedau.”
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson:
“Mae’r digwyddiad heddiw ar y cyd â Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd yn ein galluogi i ymgysylltu â chymunedau, busnesau a mentrau cymdeithasol a chymryd rhan mewn trafodaethau defnyddiol gyda nhw ynghylch sut gall Llywodraeth y DU helpu.
“Ar ôl y digwyddiad heddiw, hoffwn weld tri chanlyniad clir; dymuniad a momentwm a rennir ar gyfer twf yn y farchnad buddsoddiad cymdeithasol yng Nghymru, llunio cysylltiadau newydd, ac ennill syniadau ar gyfer gwella sgiliau ein rheolwyr yn y sector menter gymdeithasol.
“Nid yw’r syniad o Gymdeithas Fawr yn rhywbeth newydd yng Nghymru – mae nifer o bobl ar hyd a lled y wlad sy’n ysgwyddo’r cyfrifoldeb ac yn gwneud ein cymunedau yn llefydd gwell i fyw, a gwneud cyfraniad allweddol at dwf economi Cymru.
“Rwy’n edrych ymlaen at glywed am y sialensiau a’r profiadau mae ein mentrau cymdeithasol yn eu hwynebu, ac i glywed eu safbwyntiau ynghylch yr hyn sydd ei angen yng Nghymru. Mae arnom eisiau eu helpu i fynd i’r afael ag unrhyw rwystrau a chodi ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt.”
Dywedodd yr Athro Brian Morgan:
“Mae’r digwyddiad Big Society Capital yn gyfle unigryw i helpu i greu sector menter gymdeithasol sy’n ariannol iach yng Nghymru a rhoi mynediad i’r sector at gyllid i fuddsoddi mewn cyfleoedd newydd – yn enwedig y rheini sy’n canolbwyntio ar annog pobl i gymryd rhan yn y gwaith o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yn well. Ar ben hynny, mae’r digwyddiad yn cyflwyno arweinwyr sector cymdeithasol i gyfryngwyr ariannol yn y farchnad buddsoddiad cymdeithasol sydd mewn sefyllfa dda i drefnu’r cyllid ar gyfer prosiectau newydd.
“Bydd y digwyddiad proffil uchel hwn yn helpu i ddatblygu’r cysylltiadau gyda Big Society Capital i alluogi sectorau cymdeithasol i ffynnu drwy ddarparu benthyciadau ac adnoddau eraill – gan gynnwys hyfforddiant arweinyddiaeth a chyngor ariannol – wedi’u teilwra yn ôl y sector.”
“Bydd y bartneriaeth newydd rhwng Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Big Society Capital yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddarparu mynediad at gyfryngau newydd i gyllido twf y sector yng Nghymru.”
diwedd