Myfyrwyr Addysg Drawswladol Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn croesawu Llywydd ac Is-Lywydd Undeb y Myfyrwyr
20.12.2012 13:55
Yr wythnos ddiwethaf ymwelodd Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Ruth Foster a'r Is-Lywydd, Anna Hutchinson â phartneriaid strategol ym Moroco, gyda'r nod o ddeall a phrofi bywyd fel myfyriwr ym Moroco.
Ymwelodd Undeb y Myfyrwyr a'r Swyddfa Ryngwladol â phartner Addysg Drawswladol Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, sef Uwch Sefydliadau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (SIST) a Phrifysgol Hassan II - Casablanca; sy'n ddau bartner yn y prosiect Erasmus Mundus EU-METALIC cyfredol sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr Prifysgol Fetropolitan Caerdydd astudio dramor ar daith gyfnewid yn eu sefydliadau ar ysgoloriaethau a ariennir yn llawn.
Yn ystod yr ymweliadau, aeth Ruth ac Anna ar deithiau o amgylch campysau'r brifysgol, cawsant eu cyflwyno i'w cyd-fyfyrwyr Morocaidd er mwyn deall y system addysgol a ffordd o fyw myfyrwyr Moroco, a hefyd gwnaethant gyfarfod â myfyrwyr Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a oedd yn astudio rhaglenni rhyddfraint yn SIST.
 |
| Llywydd ac Is-lywydd UM Met Caerdydd gyda myfyrwyr TNE yn Moroco |
Dywedodd y ddwy: "Roedd yn gyfle gwych i weld diwylliant gwahanol a chyfarfod â myfyrwyr Addysg Drawswladol Prifysgol Fetropolitan Caerdydd. O ganlyniad, byddwn yn gallu rhoi adborth i'n myfyrwyr yma ar gampws Prifysgol Fetropolitan Caerdydd er mwyn eu hannog i astudio dramor ar daith gyfnewid." Yn ystod eu hamser yn y prifysgolion, gwnaethant gymryd rhan mewn sesiynau gwybodaeth am y prosiect Erasmus Mundus EU-METALIC, gan roi cipolwg i fyfyrwyr Moroco ar fywyd Myfyriwr yng Nghaerdydd.
Cawsant ddarlun o'r ffordd y gallant gydweithredu drwy gyfarfod â staff Undeb Myfyrwyr SIST, ac arweiniodd hyn at drafodaethau am arfer gorau, a chawsant brofiad uniongyrchol hefyd o fywyd myfyriwr ym Moroco. "Roedd pawb yn groesawgar iawn ac roedd yn ddiddorol iawn clywed sut y caiff y brifysgol ei rhedeg. Byddwn yn annog ein myfyrwyr i gymryd rhan yn y cynllun Erasmus Mundus EU-METALIC gan ei fod yn gyfle mor wych i'n myfyrwyr wrth i gyflogwyr gydnabod pwysigrwydd dinasyddiaeth fyd-eang.
"Dyddiad cau'r prosiect EU-METALIC yw 21ain Ionawr 2013. Dylai ymgeiswyr â diddordeb fynd i
http://www.eu-metalic.eu/
 |
| Llywydd ac Is-lywydd UM Met Caerdydd a'u cyfatebwyr yn SIST |
Dolenni Perthnasol
Undeb Myfyrwyr Met Caerdydd