Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn Rhyddhau Adolygiad Blynyddol 2011-12
22.01.2013 12:30
Mae Prifysgol Fetropolitan Caerdydd wedi rhyddhau ei Hadolygiad Blynyddol ar gyfer 2011-12.
Mae'r adroddiad yn crynhoi datblygiad a llwyddiannau'r Brifysgol ar gyfer blwyddyn academaidd brysur i Brifysgol Fetropolitan Caerdydd, gyda nifer o gyflawniadau arwyddocaol.
Gwelodd y Brifysgol ddatblygiad yn ei phartneriaethau yn rhyngwladol a chyda rhanddeiliaid eraill, yn ogystal â pharhau i ddarparu profiad dysgu o ansawdd uchel ym mhob un o'i hysgolion; gan gynnal ei statws fel y brifysgol 'newydd' orau yng Nghymru.
Roedd yn flwyddyn fythgofiadwy o ran chwaraeon, ac mae'r adolygiad hefyd yn dathlu llwyddiannau Olympaidd a Pharalympaidd myfyrwyr, graddedigion, hyfforddwyr, dadansoddwyr a staff cymorth Prifysgol Fetropolitan Caerdydd.
Wrth siarad am yr Adolygiad Blynyddol: dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Antony J Chapman: "Rydym yn ymrwymedig i gynnal ein safle fel Prifysgol lwyddiannus gyda ffocws strategol cryf ac ymdeimlad clir o gyfeiriad. Edrychwn ymlaen at ddyfodol disglair gan gyfrannu at ansawdd profiad myfyrwyr yng Nghymru, cyflogadwyedd ein myfyrwyr a datblygiad economi Cymru."
Gellir darllen Adolygiad Blynyddol Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yma:
Diwedd
Cyhoeddwyd gan: Effective Communication,
1 Stryd Pontcanna, Pontcanna, Caerdydd CF10 4RD
Sarah Wise ar 029 2064 6865
swise@effcom.co.uk