Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn dathlu Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd
02.01.2013 12:00
Mae Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn talu teyrnged i ddau gyn-fyfyriwr a myfyriwr cyfredol y cydnabuwyd eu llwyddiannau ar restr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd y Frenhines.
Mae'r enillwyr medal aur, Helen Glover ac Aled Sion Davies, yn ogystal â chwaraewr rygbi'r Llewod a Chymru JJ Williams wedi derbyn anrhydedd MBE.
Enillodd Helen fedal aur yng ngemau Olympaidd Llundain 2012 yng nghystadleuaeth rhwyfo mewn parau i ferched. Enillodd Aled, sy'n astudio ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd ar hyn o bryd, fedal aur yn y gemau paralympaidd, gan ennill y gystadleuaeth ddisgen F42.
Cafodd JJ Williams ei gydnabod am ei gyflawniadau ym myd rygbi, wedi iddo ennill 37 cap i'r Llewod a Chymru, ac am ei waith elusennol.
Talodd David Cobner, Deon Ysgol Chwaraeon Caerdydd, ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, deyrnged i'r tri.
"Ar ran pawb yn y brifysgol hon, hoffwn longyfarch Helen, Aled a JJ. Maent wedi cyflawni gweithredoedd anhygoel o flaen cynulleidfaoedd byd-eang ac maent yn llawn haeddu eu hanrhydeddau.
"Gobeithio eu bod hefyd yn cyfleu neges i'r rhai sy'n ymdrechu i gael gyrfa lwyddiannus ym myd chwaraeon yn ein prifysgol - os gweithiwch yn ddigon caled fe ddaw llwyddiant!"
 |
 |
| Helen Glover MBE |
Aled Davies MBE |