Curo’r drwm dros hosbis plant
22.11.2012 09:00
Mae myfyrwyr Prifysgol Fetropolitan Caerdydd wedi ymuno â DJ poblogaidd i godi arian at hosbis plant Tŷ Hafan.
Mae Gethin Ceidiog Hughes a’r seren Mikey-Ro wedi recriwtio llu o DJs eraill ar gyfer noswaith o gerddoriaeth drwm a bas anhygoel i godi arian at Tŷ Hafan, sy’n darparu gofal a chymorth i blant a phobl ifanc sydd â chyflyrau byrhau bywyd a’u teuluoedd.
 |
| Yn curo eu drymiau: Y Caredig Mikey-Ro (chwith) a Gethin Ceidiog Hughes |
Cynhelir y digwyddiad, ‘Pitch Presents Mikey-Ro’, yn y Moon Club ar Stryd Womanby, ddydd Sul (25 Tachwedd).
Meddai Gethin, myfyriwr Dylunio Cynnyrch ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd: “Heb os, mae hosbis plant yn rhoi popeth arall yn ei briod le – dydyn ni ddim yn gwerthfawrogi pa mor lwcus ydyn ni.
“Mae’n costio £3 miliwn y flwyddyn i gynnal y gwasanaeth cymorth hollbwysig hwn i helpu pobl iau a’u teuluoedd ac roeddwn i am wneud rhywbeth i helpu.
“Heb Tŷ Hafan, ni fyddai’r gwasanaethau hollbwysig hyn ar gael i deuluoedd o Gaerdydd a gweddill Cymru.
“Rwyf wedi gwirioni ar gerddoriaeth drwm a bas ac mae gen i lawer o ffrindiau ar y sin yng Nghaerdydd a dechreuais eu holi i weld a oedd yn bosibl.
“Nawr, rydym ni mewn sefyllfa i drefnu noson wych a rhoi amser da i bobl tra’n helpu llawer o bobl drwy godi arian ar yr un pryd.
“Bydd DJs rhagorol yn arddangos eu doniau ac rydym ni’n ddiolchgar iawn iddyn nhw i gyd am roi o’u hamser am ddim. Hefyd, hoffwn ddiolch i’r Moon Club am fod yn hael a rhoi’r ystafell i ni am ddim.
Agorwyd Tŷ Hafan ym 1999 ar ôl ymgyrch godi arian 11 mlynedd gan y sefydlydd, Suzanne Goodall MBE, a’r bwriad oedd rhoi cymorth i deuluoedd sy’n byw gyda’r realiti annioddefol y bydd eu plant yn marw cyn troi’n oedolion.
“Mae’n wych fod y grŵp yma o bobl ifanc wedi dod at ei gilydd i gynnal y noson arbennig hon ar gyfer Tŷ Hafan,” meddai Frank Ady o’r tîm codi arian yn yr hosbis.
“Rwy’n siŵr y bydd pawb yn cael noson werth chweil gan wybod eu bod yn helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd o bob cwr o Gymru sydd angen ein cymorth a’n cefnogaeth.
“Ar ran y teuluoedd a phawb yn Tŷ Hafan, hoffwn ddiolch o galon i bawb sydd wedi cymryd rhan am eu cefnogaeth anhygoel.”
Mae’r digwyddiad yn cychwyn am 9.30pm a chost mynediad yw £4.
Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad, ffoniwch Gethin Ceidiog Hughes ar 07743327580 neu e-bost hughesgeth@hotmail.co.uk ac am ragor o wybodaeth am Tŷ Hafan, ewch i www.tyhafan.org