Gwasnaethau Busnes
Mae UWIC yn cynnig llawer o wasanaethau ar lefel bersonol a lefel busnes.
Mae gan UWIC brofiad helaeth o weithio gyda busnesau. Rydym yn cynnig atebion arbenigol sy’n ceisio ysbrydoli arloesedd a gwella perfformiad.
Mae ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn ymestyn ar draws pob math o ddiwydiannau. Am wybodaeth bellach neu i gysylltu â rhywun o’n cyfeiriadur o arbenigwyr, ewch i https://ecimis.uwic.ac.uk/expertisedirectory/.
Ar lefel bersonol, mae UWIC yn cynnig portffolio datblygiad proffesiynol parhaus a chyngor ar ddatblygu gyrfa, gan gynnwys lleoliadau a phrofiad gwaith, therapïau cyflenwol a chlinig ffisiotherapi chwaraeon heb ei ail.