Hanes UWIC
Sefydlwyd Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd (UWIC) ym 1996 pan ddaeth yn un o golegau Prifysgol Cymru. Fodd bynnag, mae gwreiddiau UWIC yng nghanol yr 1800au, ac mae UWIC yn falch iawn o'i hanes. Isod, ceir rhai o'r digwyddiadau pwysig dros y 150 mlynedd ddiwethaf a ffurfiodd yr UWIC presennol.
Yn gryno:
1865: Agorwyd yr Ysgol Gelf yn Adeilad yr Hen Lyfrgell Rydd, Heol Santes Fair, Caerdydd.
1900: Symudwyd yr Ysgol Gelf i Adeiladau Technegol Dumfries Place.
1940 (tua): Agorwyd Coleg Technoleg Bwyd a Masnach Caerdydd ar Heol Crwys.
1949: Symudodd yr Ysgol Gelf i Dŷ'r Brodyr.
1950: Agorodd Coleg Hyfforddiant Caerdydd ym Mharc y Mynydd Bychan.
1954: Agorodd Coleg Technegol Llandaf yn Rhodfa'r Gorllewin, Campws Llandaf UWIC bellach.
1962: Symudodd Coleg Hyfforddiant Caerdydd i adeiladau newydd yng Nghyncoed, Campws Cyncoed UWIC bellach.
1965: Symudodd y Coleg Celf a Dylunio (fel y gelwid Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd bryd hynny) i adeiladau newydd yng Ngerddi Howard, Campws Gerddi Howard UWIC bellach.
1966: Symudodd Coleg Technoleg Bwyd a Masnach Caerdydd i Rodfa Colchester, Campws Rhodfa Colchester UWIC bellach.
1976: Unodd y pedwar coleg i greu Athrofa Addysg Uwch Morgannwg.
1990: Newidiodd yr athrofa ei henw i Athrofa Addysg Uwch Caerdydd i baratoi ar gyfer ei hymgorfforiad.
1992: Ym mis Ebrill, cafodd yr Athrofa ei hymgorffori. Bellach roedd yn gorff annibynnol, nad oedd o dan awdurdod y cyngor sir lleol.
1993: Rhoddwyd y pŵer i'r Athrofa ddyfarnu ei graddau ei hun, ond penderfynodd gryfhau'r cysylltiadau presennol â Phrifysgol Cymru.
1996: Daeth yr Athrofa yn goleg Prifysgol Cymru a newidiwyd ei henw i Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd (UWIC).
2004: Codwyd statws UWIC o fewn y Brifysgol o Goleg y Brifysgol i Sefydliad Cyfansoddol, y lefel uchaf o aelodaeth.
2006: Dathlodd UWIC ei ben-blwydd yn ddeg oed.
Gwneir ymdrech barhaol yn UWIC i gynnal a chodi'r safonau i bawb sy'n astudio yma. Yn 2007 UWIC oedd y brifysgol gyntaf yn y DU y dyfarnwyd Nod Siarter Rhagoriaeth y Llywodraeth iddi am y pumed tro. Mae UWIC yn ymrwymedig i bennu safonau uchel i sicrhau bod yr addysg a gaiff ei myfyrwyr o'r safon uchaf ac yn atgyfnerthu gweledigaeth, cenhadaeth, gwerthoedd ac arwyddair UWIC.