Campws Llandaf
Ar Gampws Llandaf mae Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd a rhan o Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd. Mae cyfleusterau'n cynnwys caffi i fyfyrwyr, gwasanaethau lles myfyrwyr, bar undeb y myfyrwyr, campfa, llyfrgell, gweithdai cyfrifiaduron a meithrinfa ddydd.
Campws Llandaf
UWIC
Rhodfa’r Gorllewin
Caerdydd
CF5 2YB
Map Lleoliad Campws Llandaf
Cyrraedd Campws Llandaf o:
Y Dwyrain:
• Dewch oddi ar yr M4 wrth Gyffordd 29 a theithiwch
tua'r gorllewin ar yr A48(M).
• Ewch ar hyd y ffordd ddeuol nes y byddwch yn
cyrraedd set o oleuadau traffig (bydd Tesco Extra ar
y chwith), ewch i'r lôn ar y dde.
• Wrth y set nesaf o oleuadau traffig mae lôn un-
pwrpas i'r dde, trowch i'r dde i mewn i'r campws.
Y Gorllewin:
• Dewch oddi ar yr M4 wrth Gyffordd 32 ac ymunwch
â'r A470 tuag at ganol y ddinas.
• Ewch ar hyd y ffordd hon nes y byddwch yn
cyrraedd cylchfan Gabalfa. Ar y gylchfan ewch i'r
lôn ar y dde a chymerwch y 4ydd troad gan fynd ar
yr A48(M) tua'r gorllewin.
• Ymunwch â'r ffordd ddeuol, lle byddwch yn
cyrraedd set o oleuadau traffig yn syth, ewch i'r lôn
ar y dde, (bydd Tesco Extra ar y chwith).
• Wrth y set nesaf o oleuadau traffig mae lôn un-
pwrpas i'r dde, trowch i'r dde i mewn i'r campws.