Syniadau Gwych - Cynllun Awgrym UWIC
Am beth y mae’r sôn?
Dyma eich cyfle chi i wneud gwahaniaeth! Gall eich syniad chi ddod yn wir. P’un ai myfyriwr, aelod o staff neu ymwelydd dyma eich cyfle i wella’r profiad UWIC.
Pam mynd i’r drafferth?
Mae eich barn chi yn cyfrif, ac mae hyn yn gyfle i chi leisio eich barn ac efallai helpu siapio dyfodol UWIC. Croesewir unrhyw syniadau da, cofiwch y gall awgrym bach wneud gwahaniaeth mawr.
Megis?
Efallai yr hoffech chi fannau eistedd ychwanegol y tu allan, oriau agor gwahanol ar gyfer y cyfleusterau amrywiol neu fynediad i lyfr/dyddiadur penodol.
Iawn, sut mae gwneud hyn?
Yn hawdd - drwy'r ffurflen ar-lein Cynllun Awgrymiau Syniad Gwych UWIC
Fell arall, mae cardiau a blychau awgrymiadau yn y mannau canlynol:
Rhodfa Colchester – Cyntedd Lifft Llawr Daear
Cyncoed – Y Brif Dderbynfa, Canolfan Dysgu a Derbynfa NIAC
Gerddi Howard – Nesaf at y Stiwdio Argraffu
Llandaf – Y Brif Dderbynfa, Derbynfa'r Weinyddiaeth Ganolog a Mynedfa'r Ganolfan Ddysgu
Felly, beth sy’n digwydd nesaf?
Ar ôl derbyn eich ‘syniad da’ fe fyddwn yn cadw mewn cysylltiad ac yn gyrru’r newyddion diweddaraf am gynnydd eich awgrym. Wedi’r cwbl fe fydd diddordeb gennych yn yr hyn sy’n digwydd gyda’ch awgrym felly sicrhewch eich bod yn cynnwys eich manylion cyswllt.