Gwasanaethau Llety
Gwasanaethau Llety 

Chwilio am lety?

Gall dod o hyd i lety addas, fforddiadwy fod yn bryder mawr i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf, y bydd llawer ohonynt yn byw oddi cartref am y tro cyntaf.

Mae'r Gwasanaeth Llety yn darparu gwasanaeth cynhwysfawr: mae'n pennu lleoedd mewn neuaddau preswyl neu'n helpu myfyrwyr i ddod o hyd i lety rhent preifat oddi ar y campws yn agos i'w man astudio.

Unwaith y byddwch wedi penderfynu mai UWIC yw eich dewis cyntaf neu'n ddewis wrth gefn, bydd angen i chi ofyn am fanylion a ffurflen gais yn uniongyrchol o'r swyddfa Gwasanaethau Llety. Gallwch ofyn am hyn o fis Chwefror ymlaen (Ffôn: 029 2041 6188 neu 6189)

Lleolir swyddfa ganolog y Gwasanaeth ar gampws Cyncoed ac mae ar agor drwy gydol y flwyddyn, oriau'r swyddfa yw 8.30am - 4.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a 8.30am - 4.00pm ar ddydd Gwener.